Mae'r blog yma'n gofnod dwl o'm ''blwyddyn allan''. Dwi'm yn siwr i fod yn onest beth yw pwrpas y blwyddyn allan yma ar hyn o bryd. Ond cawn weld, falle fydda'i wedi dod i nabod fi'n hun yn well ne rhyw lol felly erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae 'mhenblwydd i yfory, ac mi fyddai'n bedair ar bymtheg oed. Hen syndod i mi ydy'r busnes penblwyddi yma bob blwyddyn; oes 'na rywun yn teimlo un iotyn o wahaniaeth am eu bod nhw flwyddyn yn hun? Dwi ddim i fod yn onest. Mae'r cerdiau'n neis, ydyn, a'r anrhegion yn sbot on - er ambell waith ma angen rhoi'r ffug wen yna mlaen i blesio Nain ne Anti Beti.
Mi fyddai'n treulio'r dydd yn gyrru i Fangor i wneud clyweliad, ac yna'n ôl i Gaerdydd yn y nos.
O, dwi'n byw yng Nghaerdydd gyda llaw. Ges i'n lefelau A dros yr Haf, ond yn lle bod yn synhwyrol a chymryd fy nghanlyniadau a diflannu i fyd prifysgol, 'dwi 'nôl yn yr ysgol yn gwneud AS arall mewn Sbaeneg. Dwi hefyd yn gweithio gyda plant blwyddyn saith sydd ag anghenion arbennig. Ond rhywsut dwi'n teimlo'n anfodlon iawn ar hyn o bryd.
Ofn ydw i, efallai, o symud 'mlaen.